About Us

 

CROESO I SAFLE WE YSGOL GYNRADD HAFODWENOG!

“Ymdrechwn fel ysgol i greu amgylchfyd dysgu cyffrous, gydag ethos Gymreig, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer holl aelodau cymuned yr ysgol, er mwyn ysgogi hunan ffydd a hunan barch, a datblygu cyfleoedd i bob disgybl ac oedolyn i gyrraedd eu llawn potensial.”

‘Dysgwn, Tyfwn Gyda’n Gilydd’

Croeso i wefan Ysgol Hafodwenogsy’n rhoi cipolwg ar fywyd ein hysgol. 

Mae Ysgol Hafodwenog yn Ysgol gymunedol yng Nghymru wedi ei lleoli ym mhentref Trelech ac mae’n rhan bwysig o’r gymuned.  

Yn Ysgol Hafodwenog rydyn ni’n anelu at gynnig amgylchedd dysgu lle anogir pob plentyn i ddatblygu fel unigolion creadigol, hyderus, galluog a gwybodus.

Mae Ysgol Hafodwenog yn ysgol hapus ac mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a’i barchu. Rydyn ni’n falch o’r amgylchedd gofalgar a’r amrediad eang o brofiadau dysgu a ddarperir i’n disgyblion i gyd er mwyn iddyn nhw ddatblygu’n oedolion cyfrifol sy’n parchu ei gilydd, eu treftadaeth a’u hamgylchedd. 

Diolch am ymweld â’n gwefan a gobeithio ichi gael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch am ein hysgol. Cliciwch ar y testun priodol o’r dewislen y dudalen i i ddarganfod eich ffordd o gwmpas y safle.

Pennaeth

Dr Carol James

Yr Ysgol

Ysgol gymunedol yw Hafodwenog, a agorodd yn 1972 ar gyfer plant Alma, Bryn Iwan, Cilrhedyn, Dinas, Gelliwen, Pandy, Penybont, Talog a Threlech. Adeiladwyd yr ysgol ar fferm Hafodwenog i gymryd lle ysgolion Penrhiwlas, Alma, Trelech a Phenybont.

Adeiladwyd yr ysgol mewn pedair uned o amgylch neuadd yr ysgol. Ceir dwy uned sy’n cynnwys ystafelloedd dosbarth; Rhos Fach (Y Cyfnod Sylfaen) a Cae Glas (Adran Iau). Yn ogystal a’r rhain mae ardal y staff ac uned y gegin lle mae’r gogyddes yn paratoi a choginio’r bwyd ar safle’r ysgol.

Cymraeg yw iaith yr ysgol ac yn y Cyfnod Sylfaen [oed 3-7oed] dim ond trwy’r Gymraeg mae’r plant yn derbyn eu haddysg. Mae Saesneg yn cael ei gyflwyno yng Nghyfnod Allweddol 2 [7-11 oed].

Er mwyn cwrdd a gofynion polisi dwyieithog yr Awdurdod Addysg mae gan yr ysgol adnoddau addysgu o safon uchel er mwyn sicrhau bod plant yn medru trin a thrafod yn rhugl a gydag hyder ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg erbyn diwedd blwyddyn 6.

Derbynnir plant i’r ysgol ar ddechrau’r tymor cyn iddynt gyrraedd 4 oed a derbyniant addysg lawn amser o’r cychwyn.